Merch yn tynnu llun

Merch yn tynnu llun

Ei gael yn iawn: A wnaiff y Senedd gymeradwyo'r Cynllun Hawliau Plant newydd?

Cyhoeddwyd 03/12/2021   |   Amser darllen munudau

Pan ddaeth y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 i rym, roedd rhai yn credu ei fod yn torri tir newydd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a allwn ni ddweud bod y gyfraith hon wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc?

Yn 2020 roedd un o Bwyllgorau’r Senedd yn bendant bod yn “rhaid rhoi pwyslais o’r newydd ar sicrhau bod y Mesur hwn yn cael ei weithredu’n iawn”.

Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun sy'n dweud sut y bydd yn cyflawni'r gyfraith hon. Ar 7 Rhagfyr, bydd Aelodau'r Chweched Senedd hon yn cael dweud eu dweud a ddylid cymeradwyo Cynllun Hawliau Plant Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd.

Pa hawliau sydd gan blant yng Nghymru?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (“y Confensiwn”) yn nodi ystod eang o hawliau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau i amddiffyniad, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden.

Yn 2011, cafodd Llywodraeth Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol am gyflwyno’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – deddf sy’n golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi ‘sylw dyledus’ i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ym mhopeth y mae’n ei wneud.

Yr enw ar y cynllun sydd gan Lywodraeth Cymru i roi hyn ar waith yw’r Cynllun Hawliau Plant. Ei nod yw dweud beth fydd y trefniadau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi’r broses o weithredu'r Mesur.

Mae Cynllun Hawliau Plant presennol 2014 wedi’i ddiwygio. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynllun drafft newydd rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021. Os caiff ei gymeradwyo, y cynllun hwn wedi’i adnewyddu fydd y trydydd cynllun ers i'r Mesur ddod i rym.

Beth oedd y dyfarniad yn y Bumed Senedd?

Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd ei adroddiad ar hawliau plant ym mis Awst 2020, ynghyd â fersiwn plentyn-gyfeillgar. Gwnaeth 16 o argymhellion a daeth i'r casgliad bod "yna gynnydd i'w wneud o hyd" gan ddweud:

Clywsom rwystredigaeth glir gan randdeiliaid ynglŷn â chyflymder y Mesur wrth ddylanwadu ar bolisi a gwariant. Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a’u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Mae rhai o’r dulliau a roddwyd ar waith i helpu i weithredu’r ddeddfwriaeth hon, megis Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant, yn cael eu cynhyrchu’n llawer rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi. Mae hyn yn dangos i ni nad yw hawliau plant yn sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn unol â’r ddeddfwriaeth a fwriadwyd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 16 o argymellion y Pwyllgor yn llawn, gan dderbyn un mewn egwyddor a gwrthod pedwar.

Wrth ystyried y Cynllun Hawliau Plant yn benodol, dywedodd y Pwyllgor:

Rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd dulliau ymarferol i helpu i weithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cydymffurfio â’u dyletswydd i roi “sylw dyledus” i’r Confensiwn.

Gwnaeth y pedwar argymhelliad canlynol ar newidiadau i'r cynllun. Derbyniwyd pob un, er mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd un.

Argymhelliad 3. Y dylai Llywodraeth Cymru fewnosod darpariaeth yn ei Chynllun Hawliau Plant diwygiedig i holl Weinidogion Cymru ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol a dilynol ar ddyletswydd “sylw dyledus” Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn mewn egwyddor gan ddweud y byddai holl Weinidogion Cymru yn cael cynnig hyfforddiant yn hytrach na gorfod gwneud hyn. Mae Adran 3.4 o'r cynllun wedi'i adnewyddu, yn ceisio mynd i'r afael â hyn.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru y tri argymhelliad canlynol yn llawn. Mae Adrannau 7.2, 7.1 a 6 o'r cynllun wedi'i adnewyddu yn y drefn honno yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn.

Argymhelliad 4. Y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys yn y dull cwyno yn ei Chynllun Hawliau Plant diwygiedig yr hawl i herio penderfyniad i beidio â chynnal Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar unrhyw faes o ddatblygu polisi.

Argymhelliad 10. Y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys dull cwyno cryfach ac addas i blant yn ei Chynllun Hawliau Plant diwygiedig i rymuso plant a phobl ifanc i geisio iawn pan fo angen hynny ac i gynnal eu hawliau.

Argymhelliad 12. Y dylai Llywodraeth Cymru nodi yn ei Chynllun Hawliau Plant diwygiedig strategaeth glir i sicrhau cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn trafodaethau ar benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru sy’n effeithio arnynt.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Daflen Gwynion Hawliau Plant hefyd ym mis Tachwedd 2021.

Beth fydd barn y Chweched Senedd?

Bydd gan Aelodau'r Senedd eu barn eu hunain ynghylch a yw'r Cynllun Hawliau Plant newydd yn debygol o gyflawni'r argymhellion uchod. Mae'n siŵr y bydd gan aelodau gwestiynau eraill i'w gofyn hefyd, ynghylch a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ran cyflawni'r Mesur yn llawn.

Gallwch wylio a yw Aelodau'r Senedd yn cymeradwyo'r Cynllun Hawliau Plant, a'r hyn sydd ganddynt i'w ddweud, ar Senedd TV ddydd Mawrth 7 Rhagfyr.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru